Darpariaeth amgen ar-lein o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr agored I niwed ledled Cymru.
Rydym yn cefnogi cannoedd o ysgolion ledled 145 o awdurdodau lleol.
Rydym yn cynnig llwybr i fyfyrwyr ag anghenion ymddygiadol, meddygol ac iechyd meddwl gyflawni canlyniadau cryf, cydnabyddedig.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, awdurdodau lleol ac unedau cyfeirio disgyblion i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth gorau posibl.
Mae ein darpariaeth:
- Yn cael ei phersonoli i anghenion myfyrwyr unigol
- Yn hyblyg ac yn addas ar gyfer gofynion byrdymor a hirdymor
- Yn gefnogol; mae ein hathrawon yn brofiadol o ran cyflwyno darpariaeth amgen i fyfyrwyr a allai fod â lefelau gorbryder uchel neu a allai fod wedi ymddieithrio rhag dysgu
- Yn canolbwyntio ar yr ochr academaidd ac mae iddi gwricwlwm eang cytbwys ar gyfer disgyblion CA3 a CA4
- Yn cael ei chyflwyno gan athrawon cymwysedig a phrofiadol trwy ein llwyfan pwrpasol
- Yn cael ei chefnogi gan bortholion hawdd eu defnyddio, sy’n rhoi mynediad i adnoddau, recordiadau ac ystod eang o adroddiadau i fentoriaid
Gweithiwch gyda ni! Cymerwch eich camau nesaf i gyfeirio disgybl
O fewn 48 awr gallai eich disgybl bregus fod yn dysgu ar-lein gydag Academy21. Rydym yn ymfalchïo yn y newid effeithlon ac yn eich annog i gysylltu os oes gennych ddisgybl bregus sydd angen darpariaeth amgen.
- Monitro 360°
- Data myfyrwyr ac olrhain 24/7
- 800+ o ysgolion wedi partneru eleni
Gwyliwch er mwyn dysgu sut y gall gweithio mewn partneriaeth ag Academi21 sicrhau llwyddiant i chi a'ch myfyrwyr.
"Mae fy athrawes wedi fy ysbrydoli ar gyfer mathemateg, ac ar gyfer ysgol yn gyffredinol, eto ac wedi gwneud i mi deimlo y gallwn wneud pethau. Rhoddodd hwb enfawr i fy hunanhyder a hoffwn ddiolch yn fawr iddi am hynny."
Christopher
Myfyriwr Blwyddyn 11